Yn Llanilar, ger Aberystwyth, cuddiodd Grugyn yn y llwyni ond daeth y cwn ar ei draws. Ymosodwyd arno yn ddidrugaredd â saethau ac er iddo ladd nifer o ddynion dewr, amgylchynwyd Grugyn gan ymladdwyr a bytheiaid nes iddo gael ei drywanu i farwolaeth yn ei war â chleddyf.