English Text

Aeth y Twrch yn ei flaen, er gwaethaf y ceffylau, y dynion a'r bytheiaid wrth ei sodlau. Dilynodd y cwn ei drywydd wrth iddo ffoi am Ddyffryn Tawe. Cadwodd o olwg ac o afael dynion Arthur, gan guddio yn y drysni trwchus ble bynnag y medrai. Roedd yn anelu am Euas i gyfeiriad Llyn Lliwan ger aber afon Hafren.