English Text

Ond cyn iddynt fedru gafael yn y grib, llithrodd y Twrch o afael Arthur. Crafangodd at ei draed, o afael yr erlidwyr, cyn sgrialu am y tir. Heb oedi eiliad, rhuthrodd tua Chernyw. Dilynodd Arthur ef ar ei union cyn belled ag arfordir Cernyw lle llwyddodd Culhwch i fachu'r grib a'i rhwygo rhwng clustiau'r Twrch Trwyth cyn ei yrru ar ei ben i'r môr. Ni welwyd mohono byth wedyn.