English Text

"Rwyf am erlid y Twrch a'i giwed," ysgyrnygodd Arthur. "Ni fynnaf orffwys nes i mi ladd y Twrch a chadw'r addewid a roddais i'm câr, Culhwch." Ymhen dim roedd yn dilyn yr anifail yn ei long, Prydwen, a hwyliodd i borthladd Mynyw ger Deu Gleddyf.