English Text

Cyrhaeddodd yr helwyr Nanhyfer lle gosododd Arthur ei wroniaid yn eu trefn ar gyfer y frwydr. Disgwyliodd ei lu yn dawel am swn y corn hela. Atseiniodd y corn trwy'r niwl oer, llaith. Sbardunodd milwyr Arthur eu ceffylau ymlaen, â'r bytheiaid yn dynn wrth eu sodlau.