Llamodd y bytheiaid ar y tri chreadur, gan anelu at eu traed a cheisio cnoi eu cefnau. Lladdodd y baedd mawr lawer anifail â'i ysgithrau milain. Taflodd dynion eu hunain i ganol y frwydr â'i picellau a'i cleddyfau. Lladdodd y Twrch bedwar gwron cyn i Gwrydre, mab Arthur, gael ei sathru i farwolaeth.