English Text

Parhaodd yr helfa, â dynion yn cael eu lladd a'u hanafu wrth i'r Twrch redeg yn wyllt ar hyd y bryniau tua Hendy-gwyn ar Daf a San Clêr. Daeth Arthur o hyd iddo ym Mheuliniog a dyna lle bu Madog a Gwyn farw. Carlamodd y Twrch am Abertywi. Gorfododd helwyr a bytheiaid ef i adael ei guddfan, ogof fechan ar ymyl y bryn creigiog.