Carlamodd dynion Arthur ar draws y wlad i chwilio eu hysglyfaeth. Ceisiodd y tri baedd guddio ger Llyn y Fan Fawr, yn y Mynydd Du. Er i Grugyn geisio dianc wrth y bytheiaid, bu'n rhaid iddo sefyll ac ymladd. Gwibiodd trwy'r dynion a'r cwn a ffoi tua Cheredigion (13). Cafodd helwyr hyd i Llwydog, a'i orfodi o'i loches ond ffodd hwnnw am Dalgarth (14).